Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd sy'n cefnogi pobl ar incwm isel neu'n ddi-waith. Mewn amser bydd yn cymryd lle’r 6 budd-dal oed gwaith canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Budd-dal Tai
Am ragor o wybodaeth fanwl ynglŷn â'r Credyd Cynhwysol, gweler y ddogfen ganlynol sydd wedi ei rhoi gan y Llywodraeth: Universal Credit and You neu ewch I wefan Credyd Cynhwysol:
Ddolen - Universal Credit: What Universal Credit is
Cymorth gyda Chostau Tai:
- Bydd unrhyw gymorth a gewch gyda'ch rhent yn cael ei gynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
- Byddwch yn gyfrifol am dalu eich rhent i'ch landlord
- Mewn rhai amgylchiadau, gall ceisiadau gael eu gwneud i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r landlord
Ddolen - Cyfrifiannell Budd-daliadau
Dylid defnyddio’r cyfrifianellau hyn fel canllaw yn unig i'ch hawl budd-dal posibl gan y gall fod ffactorau eraill sy'n effeithio ar y swm terfynol y mae gennych hawl iddo. Efallai y bydd y swm y byddwch yn cyfrifo yn wahanol i'r swm rydych yn gymwys i'w dderbyn.