Mae Teulu Môn yn wasanaeth cynhwysol a rhad ac am ddim i deuluoedd ar Ynys Môn.
Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i bob plentyn, teulu a gweithwyr proffesiynol am wybodaeth, cyngor a chymorth sy'n ymwneud â phlant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.
Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn ac fe allwn ni helpu os ydych chi:
yn chwilio am ofal plant neu'n ystyried dod yn weithiwr gofal plant proffesiynol
Eisiau cael gwybod mwy am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal
yn gofyn am gyngor neu angen cefnogaeth ychwanegol, gall hyn fod lawr i dor-teulu, pryderon am dai, trafferthion ariannol neu brofedigaeth
problemau yn yr ysgol, anabledd o fewn y teulu, beichiogrwydd yn eu harddegau, camddefnyddio alcohol a chyffuriau
eisiau siarad trwy bryder sydd gennych am les a niwed posib plentyn
Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol a dweud beth sy'n digwydd. Ffôn: 01248 725888 (Rhif allan o oriau: 01248 353551
Gofyn i oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo, fel athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind, ffonio ar dy ran. Mae'n rhaid i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddilyn rheolau a phrosesau, ond byddant yn esbonio hyn i ti a dy helpu drwy'r broses.