Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn bartneriaeth rhwng asiantaethau (heddlu, iechyd a’r gwasanaeth prawf) a chynghorau Gwynedd a Môn.

Mae’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar gyfer ar gyfer rhai 10 - 18 oed.

Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Môn yn gweithio gydag unrhyw un rhwng 11-19 oed, beth bynnag fo'u rhyw, cefndir neu allu.

Mae 23 o glybiau ieuenctid ar hyd yr ynys lle gall pobl ifanc o 11 oed i fyny gyfarfod â'u ffrindiau am sgwrs ac ymlacio!

Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ogystal â darparu sesiynau hwyliog fel coginio, celf a chrefft, dawns a drama, gemau tîm, gweithgareddau corfforol ac mae gennym Glwb LHDTQ + sydd ar gael ym mhob ysgol.

Rydym hefyd yn cyflwyno materion addysgol megis diogelwch y rhyngrwyd, Cymorth Cyntaf, byw'n iach ac ati.

Ieuenctid logo

Hoffech chi fod yn rhan o'r teulu?