Ydych chi’n poeni am blentyn?

Ydych chi'n poeni am blentyn? (llyw.cymru)

 

Cam-drin plant

Mae camdriniaeth yn golygu gwneud niwed i rywun neu beidio sicrhau nad yw rhywun yn cael niwed. Mae camdriniaeth neu esgeulustod yn gallu digwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n eu hadnabod yn dda, neu yn llai aml gan rhywun dieithr. 

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn peryg o gael ei gam-drin neu sy’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn gadael i'r Cyngor neu’r heddlu wybod.

Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu'n syth - 999.

Gallwch gael help trwy ffonio’r Swyddogion Teulu Môn ar 01248 725888.

Neu cysylltwch â llinell ffôn Gwasanaethau Cymdeithasol gynted a bo modd er mwyn rhannu eich pryder.

 

Ffôn -

Gwasanaethau Cymdeithasol:  01248 725888

(Rhif allan o oriau:  01248 353551)


Pa wybodaeth fyddai angen ei rannu?

  • Beth yw eich pryder a sut ddaeth yn amlwg?
  • Beth yw enw'r unigolyn sydd yn dioddef, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a manylion y teulu? (os ar gael)
  • Pwy sydd wedi achosi pryder i chi ac oes yna dystion eraill?
    Beth fydd yn digwydd wedyn?
  • Bydd eich galwad yn cael ei gofnodi a gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei wirio i weld a yw'n adnabyddus.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan asiantaethau eraill sydd â chysylltiad posib gyda'r unigolyn.
  • Ar sail y wybodaeth sydd ar gael bydd penderfyniad yn cael ei wneud i ymchwilio i'ch pryder.
  • Gall hyn arwain at waith cynhwysfawr i amddiffyn yr unigolyn rhag dioddef niwed pellach.

Hoffech chi fod yn rhan o'r teulu?