Chwarae a gweithgareddau

Canllaw Dewch i Chwarae Ynys Mon

Y canllaw gorau i lefydd ar gyfer chwarae ym Môn:

Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant. Maent yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o'r broses wneud penderfyniadau ac ym mhobman ble y gallai plant chwarae.

Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru un diwrnod yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu'n ddigonol ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn:

Gofal llun 4

Plentyndod Chwareus

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch sy’n anelu i helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a cefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol: Plentyndod Chwareus.

Screenshot 2023 07 10 at 10 18 54

Asesiadau digonolrwydd chwarae

Mae asesiad o ddigonolrwydd gofal plant yn cymharu'r cyflenwad o ofal plant o fewn ardal i’r angen am ofal plant. Mae galw yn seiliedig ar y nifer o blant of fewn ardal, a’r cyfartaledd cenedlaethol o ran defnydd o’r gofal. Wrth gymharu’r angen, mi fedrwn ni penderfynu os oes angen mwy o ofal plant of fewn yr ardal. Am fwy o wybodaeth ewch i: 

Young people and schools 4

Grwp Facebook Babis a Phlant Mon

Grwpiau o rieni Babanod a phlant ifanc Ynys Môn.

Cyfle i rhannu syniadau ar gyfer gweithgareddau , cael sgwrs / rant / gofyn am gyngor . Dod i adnabod rhieni sydd â phlant yr un oed â'ch rhai chi neu sy'n byw yn agos. Grŵp ar gyfer rhieni babanod a phlant bach Ynys Môn.

Babis a phlant

Babi Actif

Bydd Babi Actif yn darparu sesiynau mewn lleoliadau / mannau amrywiol ledled Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, AM DDIM. Yn ystod oes y prosiect rydym yn gobeithio cynnwys teithiau cerdded gyda choets, ffitrwydd rhiant a babi, beicio, loncian, teithiau cerdded gyda sling, dawnsio gyda sling a sesiynau synhwyraidd yn yr awyr agored, gyda’r nod o helpu rhieni newydd i ddod o hyd i weithgaredd awyr agored maen nhw wir yn ei fwynhau. Bydd y pwyslais ar gael hwyl a bod yn iach gyda’ch babi, i osod y blociau adeiladu ar gyfer dyfodol iachach i chi’ch dau.

Download

Môn Actif  

Mae amrywiaeth eang o gyfleustarau hamdden ar gael i bobl o bob oed a gallu ac mae ein prisiau yn rhoi gwerth ardderchog am arian. Mae 4 canolfan ar draws yr ynys - ymunwch ag un a cewch ddefnyddio unrhyw un.

Mon actif

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Sport wales

Booktrust 

Mae gan Booktrust adnoddau a chefnogaeth i gael pob plentyn i ddarllen yn rheolaidd a thrwy ddewis.

Download 1

Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Mon

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn yn gweithio gydag unrhyw un 11-19 oed, waeth beth fo'u rhyw, cefndir neu allu. Mae 23 o glybiau ieuenctid ledled yr ynys lle gall pobl ifanc o 11 oed i fyny gwrdd â'u ffrindiau i gael sgwrs ac ymlacio.

Young people and schools 2

Sgiliau diogelwch ar y ffyrdd i blant

Mae’r dudalen we yma wedi cael ei ddatblygu yn ystod yr epidemic Covid-19 fel bod plant yn gallu parhau i  ddatblygu eu sgiliau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffyrdd.

Image002

Gweithgareddau tu allan

Tîm Cefn Gwlad ac AHNE Cyngor Sir Ynys Môn sy’n trefnu’r digwyddiadau hyn.

Amcan y cynllun yw gwella cyfleoedd i fwy o bobl ar Ynys Môn gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored.

Young people and schools 3

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ein hamcan yw cael mwy o blant, pobl ifanc ac oedolion i werthfawrogi a chysylltu â natur er mwyn sicrhau dinasyddion moesol a deallus heddiw ac i’r dyfodol.

Nrw

Elfennau Gwyllt

Mae Elfennau Gwyllt yn fenter gymdeithasol ddi-elw ymrwymedig i gael pobl Gogledd Cymru tu allan i’r awyr agored er mwyn eu cysylltu â natur, i wella eu bywydau, cyfleoedd a dyheadau.

Wildelements

Coed Lleol

Rhaglen Iechyd a Lles Coetiroedd - eang o weithgareddau iechyd a lles coetiroedd.

Coed leol

RSPB

Mae digonedd o syniadau ac adnoddau gwych i helpu plant a theuluoedd i gysylltu â byd natur, gyda rhai gweithgareddau syml y gallant eu gwneud gartref. Yn yr ardal "Hwyl a Dysgu" ceir adran ar gyfer plant sy'n rhoi canllawiau fesul cam i wneud porthwyr adar a thaflenni "Adnabod". Hefyd ceir gemau, straeon a chystadlaethau rhyngweithiol.

Rspb

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Mae’r wefan hon yn canolbwyntio ar ofalu amdanoch chi eich hun a byd natur, ac mae ynddi lawer o weithgareddau a syniadau ar gyfer pob oedran, boed yn rhai o dan do neu yn yr ardd:

Wt

'Dyddiau Gwyllt' Earthwatch   

Adnoddau a grëwyd yn arbennig i'ch helpu i adnabod y bywyd gwyllt sydd ar garreg eich drws.Syniadau gweithgareddau am ddim:

Screenshot 2023 07 10 at 14 46 27

Oriel Môn

Mae Oriel Môn yn newid bywydau trwy ofalu am, dehongli a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn.

Oriel Mon

Storiel

Mae’r amgueddfa’n dwyn ynghyd gasgliadau hanes cymdeithasol o bob rhan o’r gogledd.

Screenshot 2023 07 10 at 14 53 09

Gweithgareddau Cymraeg

Mae'r Gymraeg yn iaith fyw ar Ynys Môn. Gyda dros hanner poblogaeth yr ynys yn gallu siarad Cymraeg, mae'r iaith yn fyw mewn cartrefi, mewn gweithleoedd ac yn ein cymunedau.

Urdd

Pobl ifanc brwdfrydig yn cystadlu a chymdeithasu drwy ganu, actio, nofio, dawnsio, chwaraeon a teithio:

Urd

Hoffech chi fod yn rhan o'r teulu?