Mae'n bosib y gallwch gael help i dalu am ofal plant os ydych yn defnyddio darpariaeth gofal plant sydd wedi cofrestru, er enghraifft
gwarchodwr plant, meithrinfa, cylchoedd meithrin, cynllun chwarae neu glwb
gwarchodwr plant gydag asiantaeth gwarchod plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant
Dyma beth a allai fod ar gael i chi:
Grant datblygiad plentyn - oriau gofal plant wedi cyllido- Gofal Plant wedi ei ariannu i blant 2 ½ - 3oed
Ar gyfer plant gyda dyddiad geni rhwng 01/09/2019 - 31/12/2019
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch gyda Darpariaeth Gofal Plant lleol. Neu os nad ydych yn defnyddio ddarpariaeth ar y funud, mae modd dod o hyd i rhai yma: Teulu Môn (llyw.cymru)
Mae hyd at 12.5 awr o ofal plant ar gael ar gyfer plant rhwng 2-3 oed am ddim yn ystod y tri thymor ysgol os yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg. Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio.
Gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn, sy'n cael ei ariannu gan y llywodraeth, yn ceisio lleihau baich costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych chi wedi'i arbed ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.
Credyd Cynhwysol: Budd-dal ar gyfer pobl heb waith neu ar incwm isel.
Cyllid Myfyrwyr Cymru: Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant yn ddibynnol ar y cwrs maen’t yn ei wneud. Mae hefyd yn bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol. Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.
Rhieni, gofal plant a chyflogaeth (PaCE): Cymorth i rieni cymwys sydd heb waith ac sy’n ei chael hi’n anodd dechrau hyfforddiant neu waith oherwydd gofal plant.
Credydau Yswiriant Cenedlaethol: Os ydych yn daid neu’n nain neu aelod arall o’r teulu yn gofalu am blentyn o dan 12 oed, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio.