Grantiau a budd-daliadau iechyd a gofal cymdeithasol
GRANT CYFLEUSTERAU I BOBL ANABL
At ba fath o waith y mae’r grant ar gael?
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant gorfodol ac mae ar gael i ddarparu cyfleusterau i bobl anabl mewn anheddau ac mewn rhannau cyffredin o adeilad sy’n cynnwys un neu fwy o fflatiau.
Eu prif nod yw ei gwneud yn haws i’r person anabl gael i mewn a mynd o amgylch ei g/chartref a defnyddio’r cyfleusterau ynddo.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
GRANTIAU TEITHIO
Mae sawl dewis a gwasanaeth ar gael i chi o ran teithio os ydych yn cael trafferth mynd o le i le.
Tocynnau teithio
Mwy o wybodaeth am wahanol docynnau teithio sydd ar gael i’ch helpu:
- Tocynnau teithio - Gwneud cais am docyn bws i deithio ar fysiau a threnau lleol
- Tocynnau Bws Ysgol –
- Bathodyn Glas – cynllun parcio am ddim ar gyfer pobl anabl, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi barcio yn ymyl ble rydych yn mynd
- Cardiau Rheilffordd Cenedlaethol (cyswllt allanol) – gwnewch gais am Gerdyn Rheilffordd i bobl hŷn neu bobl anabl er mwyn arbed arian ar docynnau trên.
Cludiant cymunedol
Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd defnyddio cludiant cyhoeddus oherwydd anabledd neu broblem symud. Gallech gael help i fynd i’r dref i wneud eich siopa’n wythnosol neu fynd at y doctor. Am fwy o wybodaeth ewch i:
Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd
TALIADAU UNIONGYRCHOL
Taliadau uniongyrchol (llyw.cymru)
CEFNOGAETH ARIANNOL I OFALWYR
Cefnogaeth ariannol
Fel gofalwr, mae gennych hawl i gymorth ariannol fel lwfans gofalwyr, credydau treth a chymorth ariannol arall.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am faterion ariannol gofalwyr, mae croeso i chi gysylltu â ni: Ffôn 0303 123 1113