Gwybodaeth I Rieni

Gwybodaeth I Rhieni

Mae'r math gorau o ofal plant i chi yn dibynnu ar sefyllfa eich teulu ac anghenion eich plentyn. Wrth i'ch plentyn dyfu, bydd ei anghenion chwarae ac addysgol hefyd yn newid, ac efallai y bydd angen i chi ystyried gwahanol fathau o ofal plant.

  • Caniatewch ddigon o amser i chi'ch hun ddewis y gofal plant cywir i chi. Os ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith ar ôl genedigaeth eich babi dylech ddechrau eich chwiliad cyn i'r babi gael ei eni. Dylech hefyd fod yn barod i dreulio amser yn ymgartrefu'ch plentyn gyda'ch dewis ofalwr.

     

  • Mae gan rai darparwyr gofal plant restr aros am leoedd felly mae'n bwysig meddwl ymlaen llaw am y math o ofal a darpariaeth yr hoffech eu defnyddio.

     

  • Mae Gwarchodwyr Plant Cofrestredig, Meithrinfeydd Dydd, Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol, Cylchoedd Chwarae a Chylchoedd Meithrin i gyd wedi'u cofrestru a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

     

  • Gallwch hefyd ymweld ag Arolygiaeth Gofal Cymru am ragor o help a chyngor ar sut i ddewis y gofal plant cywir i chi a'ch teulu.

     

  • Ynglŷn ag addysg feithrin a chyn-ysgol (llyw.cymru)

 

Ewch i Childcare Choices Llywodraeth y DU. i gael rhagor o wybodaeth am holl gynigion gofal plant y llywodraeth gan gynnwys y grant gofal plant neu fwrsariaeth. Gallwch hefyd ddefnyddio’r Gyfrifiannell Gofal Plant i gyfrifo pa gymorth gan y llywodraeth sydd fwyaf addas i’ch amgylchiadau

Gofal llun

Cymorth gyda Taliadau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am help i dalu am ofal plant ar ein gwefan, a hefyd ar wefan Dewisiadau Gofal Plant Llywodraeth EM Help i dalu am ofal plant | LLYW.CYMRU

Cynnig gofal plant cymru - Gofal plant i blant 3 a 4 oed:

Gallai plant cymwys fod â hawl i hyd at 20 awr o ofal plant am ddim a ariennir gan y llywodraeth yn ystod y tymor yn ychwanegol at y 10 awr a ddarperir eisoes gan y Cyfnod Sylfaen bob wythnos.

Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau ysgol, bydd rhieni'n gallu cael hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu.

• https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Plant-a-theuluoedd/Gofal-plant-i-blant-3-a-4-oed.aspx

• Cynnig Gofal Plant Cymru | Help Gyda Chostau Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Gofal llun 2

Dechrau'n Deg

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae’ch plentyn yn gymwys i gael mynediad at ofal plant sesiynol wedi’i ariannu.Bydd gofal plant yn cychwyn ar ddechrau’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 2 oed tan y tymor ar ôl eu 3ydd penblwydd.Gall eich plentyn fynychu am 2 ½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.Mae lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn darparu gofal plant o ansawdd uchel, a byddant yn gweithio’n agos gyda chi i hybu datblygiad eich plentyn.

Gofal plant rhan amser o safon i blant 2-3 oed (ynysmon.gov.uk)

Cyswllt: Dechrau'n Deg

Canolfan Jesse Hughes

Ffordd Kingsland

Caergybi

Ynys Mon

LL65 2HR

Ffôn: 01407 767 786 neu 01407 762 507

Screenshot 2023 07 11 at 11 19 17

Cymorth anabledd blynyddoedd cynnar

Bydd y gwasanaeth Cefnogi Cynnar yn darparu gwasanaeth cymorth cyfannol sy'n mynd i'r afael â phob agwedd ar fywyd bob dydd i deuluoedd plant o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed sydd ag anableddau difrifol a/neu gymhleth.

Os oes ganddoch diddordeb mewn Gofal Plant cysylltwch gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu Ynys Môn 

01248 725 888 teulumon@ynysmon.llyw.cymru 

Darllen pellach: Plant a theuluoedd | Pwnc | LLYW.CYMRU

Os oes ganddoch diddordeb mewn Gofal Plant gallwch gysyslltu gyda`r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ynys Môn.

Ffoniwch ni ar 01407 725 888

e-bostiwch: teulumon@ynysmon.llyw.cymru

Eyw website logo 0

Hoffech chi fod yn rhan o'r teulu?