Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) sydd wedi ei gydleoli yn Ysbyty Cefni yn Llangefni. Rydym yn cynnig cymorth arbenigol ar gyfer problemau iechyd meddwl ac emosiynol i bobl a’u teuluoedd.
SilverCloud online mental health therapy - Gall pobl 16 oed a throsodd sy'n dioddef o pryder, iselder neu straen gofrestru ar gyfer cwrs 12 wythnos am ddim o therapi ar-lein SilverCloud drwy eu ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur gwaith.