Mabwysiadu

Mae mabwysiadu plentyn yn golygu dod yn deulu iddo am oes.

Mae'r broses yn cynnwys:

  • Cyfnod o hyfforddiant ac asesu cyn cael eich cymeradwyo.
  • Adnabod anghenion y plentyn, a chanfod teulu sy'n cwrdd â'r anghenion hynny.
  • Cyfnod o gyflwyno a symud i mewn.
  • Cymeradwyo'r mabwysiadu gan y llys - dod yn rhieni cyfreithiol y plentyn.

Gall y broses o gael cymeradwyaeth ac aros fod yn hir, ond mae'r gwasanaeth wedi helpu llawer o fabwysiadwyr a phlant lleol i gael bywyd newydd gyda'i gilydd fel teulu.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru'n wasanaeth sy'n cyfuno timau mabwysiadu yng Ngwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ganfod teuluoedd lleol ar gyfer plant yng ngogledd Cymru.

Family 5

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu, angen cefnogaeth ychwanegol neu os ydych eisiau gofyn unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.

Asset 22

Maethu Môn

Mae creu dyfodol mwy disglair i blant yn ein cymuned yn ganolog ir gwaith.Mae’n ran o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae Maethu Cymru Ynys Môn wedi ymrwymo i gefnogi yn y gymuned, p’un ai yw hynny’n golygu cefnogi’r plant yn ein gofal, eu teuluoedd maeth neu’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ni bob dydd.Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n dîm ehangach nid-er-elw ar draws Cymru.

TEULU MAETHU

Hoffech chi fod yn rhan o'r teulu?