Mae cinio am ddim ar gael i blant ysgolion cynradd ac uwchradd os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn:
Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol o ddim mwy na £16,190)
Credyd Pensiwn (Gwarant)
Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400
Fydd teuluoedd sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith ddim yn cael cinio am ddim, hyd yn oed os yw eu hincwm trethadwy blynyddol o dan £16,190.
Gwneud cais
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, nid oes rhaid cwblhau ffurflen gais am ginio ysgol am ddim, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig. Os nad ydych yn derbyn cymorth ariannol ac yn meddwl fod gan eich teulu hawl i ginio am ddim, cwblhewch y ffurflen isod.
Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, mae'n bosib y bydd gennych hawl hefyd i gael cymorth ychwanegol drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.
Er mwyn galluogi disgyblion i aros yn yr ysgol i gael addysg lawn-amser ar ôl oedran gadael ysgol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu lwfans cynnal. Mae’r lwfans yn cael ei dalu unwaith y tymor, ar ôl hanner tymor, os ydym yn derbyn adroddiad ysgol foddhaol ar bresenoldeb a chynnydd.